1,2,(3),4; 1,2,5,6. Yn nyfnder profedigaeth ddu, Dôs Di Dy Hun o'm blaen; Ond imi gael bod gyda Thi, Ni ofnaf ddŵr na thân. At wedd dy wyneb nid yw ddim Trysorau maith y llawr, Mae hanner gair o'th enau'n fwy Ei rym nag uffern fawr. Mae angeu, a'r bedd, ac uffern ddu, Yn hongian wrth Dy groes; Mil o elynion goncraist Ti Trwy ddioddef angeu loes. Dy allu yw fy nerth a'm grym, Yn D'allu byddaf byw; 'R wy'n wàn, 'r wy'n llesg, ni allaf ddim Un funyd heb fy Nuw. Fe gryn y byd, ac uffern fawr, Wrth amnaid T'wysog nen; O! 'r fath ogoniant hwnw fu Yn dyoddef ar y pren. Myfi anturia'n awr ymlaen Heb alwad îs y ne', Ond bod perffeithrwydd mawr y groes Yn ateb yn fy lle. - - - - - Yn nyfnder profedigaeth ddu, Ny Nuw, dos o fy mlaen; Ond imi gael bod gyda thi, Nid ofnaf ddŵr na thân. Tan bob cystuddiau fwy na mwy, Rhuadau cnawd a byd, Mae digon nerth mewn marwol glwy', I'w maeddu oll ynghyd. Fy nghysur unig dan bob gwae, Dy fod i mi yn Dduw; Ac yn dy gysgod mi âf trwy, Gystuddiau o bob rhyw. Fe'm golchir yn fy nghystudd trwm, Fe'm purir yn y tân; Ac mi ddof allan, pan ddel dydd, Gwedi fy nghànu yn lân. a 'ngrym :: a'm grym 'R wy'n :: Wyf
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
In the depth of black tribulation, Come Thou Thyself before me; If only I may get to be with Thee, I shall fear neither water nor fire. To the likeness of thy countenance is none Of the vast treasures of below, Half a word from thy mouth is greater In its force than great hell. Death, and the grave, and black hell, are Hanging by Thy cross; A thousand enemies Thou didst conquer Through suffering the pangs of death. Thy power is my strength and my force, In Thy power I will live; I am weak, I am feeble, I can do nothing For one minute without my God. The world shall shake, and great hell, At the sign of the Prince of heaven; Oh what glory that was Suffering on the tree. As for me, I shall venture now onward Without a call above heaven, But that the great perfection of the cross be An answer in my place. - - - - - In the depth of black tribulation, My God, come before me; If only I may get to be with Thee, I shall fear neither water nor fire. Under every affliction, more than more, The roars of flesh and world, There is enough strength in a mortal wound, To shatter them all together. My only comfort under every woe, That Thou be God to me; And in thy shadow I will go through, Afflictions of every kind. I am to be washed in my heavy affliction, I am to be purified in the fire; And I shall come out, when the day comes, After my bleaching clean. :: :: tr. 2013 Richard B Gillion |
|